Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Howells, Llywodraeth Cymru Alyn Williams, Llywodraeth Cymru Huw McLean, Llywodraeth Cymru Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran.
2. Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 14
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:
- Canllawiau Llywodraeth Cymru ar grantiau cyfleusterau i’r anabl;
- Canllawiau ynglŷn â ph’un ai yw profion modd yn cael eu gweithredu’n wahanol rhwng Awdurdodau Lleol;
- Y data a ddefnyddir wrth gyfrifo’r elfen tai yn y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol.
3. Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Tai ac Adfywio
3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog Tai ac Adfywio a’i bortffolio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
- Lle y bo’n briodol, y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ynglŷn â gadael System Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai;
- Manylion cynllun i ddisodli’r Cynllun NewBuy Cymru arfaethedig;
- Manylion penodol ar y Bil Tai ac yn fwy cyffredinol y wybodaeth ddiweddaraf am gydrannau deddfwriaethol eraill ym mhortffolio’r Pwyllgor.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
4.2 Gohebiaeth yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth
Trawsgrifiad
Trawsgrifiad o’r Cyfarfod.